Mae ein cynllun cymhorthdal teithio’n helpu grwpiau addysg sy’n ymweld â Senedd y DU o’r tu allan i Lundain a’r De-ddwyrain gyda’u costau teithio. Os yw eich grŵp yn gymwys gallwch dderbyn ad-daliad o rhwng 50 a 75 y cant o’ch costau teithio ( yn amodol ar gap hawliad uchafswm).
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch grŵp fod:
- Wedi archebu ymweliad naill ai trwy ein Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu neu ar gyfer Taith Mynediad Democrataidd
- O sefydliad a gyllidir gan y llywodraeth neu sefydliad cymwys arall. Gweler Atodiad A ein telerau ac amodau i gael mwy o wybodaeth.
- Ymweld o etholaeth o fewn Band B neu C o’r bandiau cymhorthdal teithio. Edrychwch ar ein rhestr etholaethau i weld ym mha fand y mae eich ysgol.
Os nad ydych yn siŵr ym mha etholaeth y mae eich ysgol neu grŵp, defnyddiwch ein gwasanaeth Dod o Hyd i’ch AS.