Yn unol â chyngor ac arweiniad diweddaraf y Llywodraeth gan Iechyd y Cyhoedd Lloegr, mae ymwelwyr nawr wedi eu hatal rhag ymweld â Senedd y DU. Mae’r Ganolfan Addysg nawr ar gau ac ni chaniateir teithiau ysgol. Rydym hefyd wedi gohirio ein gweithgaredd allgymorth rhanbarthol a chenedlaethol i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae’r penderfyniad, yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth, wedi’i wneud gan Lefarydd y ddau dŷ, mewn ymgynghoriad ag Iechyd y Cyhoedd Lloegr, i gadw Senedd y DU i weithredu.

Archebwch weithdy ar-lein i'ch ysgol

Yn agored i ysgolion cynradd neu uwchradd, mae sesiynau byw yn parhau am tua awr ac maen nhw'n cael eu darparu gan staff o Senedd y DU.

Cysylltwch â ni ar-lein

Daliwch i fyny ar ein sesiynau Dysgu Byw. Sesiynau hwyliog ar-lein i gysylltu'ch disgyblion â gwaith Senedd y DU.

Cynllunio'ch ymweliad?

I gael mwy o wybodaeth am gynllunio eich taith i Senedd y DU, gan gynnwys gwybodaeth am ein cymhorthdal teithio ar gyfer teithiau addysgol a chwestiynau cyffredin eraill.

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr addysg misol Senedd y DU i gael y newyddion diweddaraf am ein holl gyfleoedd dysgu.