Yr hyn i’w ddisgwyl
Mae modiwlau ar-lein wedi’u cynllunio i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth pwnc o Senedd y DU a phynciau cysylltiedig.
Mae pob modiwl yn cynnwys erthyglau, gweithgareddau a fideo i wella eich dealltwriaeth o’r pwnc, yn ogystal â syniadau ar gyfer gwneud gwybodaeth am Senedd y DU a democratiaeth yn rhan annatod o’ch arfer addysgu.
Mae ein modiwl cyntaf, ‘Deall Senedd a Llywodraeth y DU’ ar gael nawr.
Cofrestru
Ceir dryswch weithiau ynghylch y gwahaniaeth rhwng Senedd y DU a’r llywodraeth. Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn gallu:
- esbonio rhai o rolau Llywodraeth y DU
- esbonio pwy sy’n ffurfio Senedd y DU a’i swyddogaethau
- amlinellu rhai o’r dulliau y mae Senedd y DU yn eu defnyddio i graffu ar y llywodraeth