Yn unol â chyngor ac arweiniad diweddaraf y Llywodraeth gan Iechyd y Cyhoedd Lloegr, mae ymwelwyr nawr wedi eu hatal rhag ymweld â Senedd y DU. Mae’r Ganolfan Addysg nawr ar gau ac ni chaniateir teithiau ysgol. Rydym hefyd wedi gohirio ein gweithgaredd allgymorth rhanbarthol a chenedlaethol i ysgolion a grwpiau cymunedol.
Mae’r penderfyniad, yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth, wedi’i wneud gan Lefarydd y ddau dŷ, mewn ymgynghoriad ag Iechyd y Cyhoedd Lloegr, i gadw Senedd y DU i weithredu.
Yn cynllunio ymweliad taith ysgol neu grŵp cymunedol? Mae’r dudalen hon yn caniatáu i chi wybod am yr hyn i’w ddisgwyl, pa gymorth y gallech ei gael, a chwestiynau cyffredin eraill.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw uchafswm nifer y myfyrwyr rwyf yn gallu dod â nhw?
Mae gan deithiau a gweithdai le i 36 o bobl y slot amser, gan gynnwys oedolion. Mae’r isafswm cymhareb o oedolion i ddisgyblion yn dibynnu ar oedran y myfyrwyr:
- Oedran 5-7: 1 oedolyn i 7 disgybl
- Oedran 7-18: 1 oedolyn i 15 disgybl
Gallwch archebu lle i hyd at 108 o ymwelwyr ymhob tymor academaidd.
Os byddwch yn dod â mwy na 36 o bobl, byddwn yn rhannu eich grŵp ar draws slotiau amser lluosog.
Beth yw’r isafswm nifer y grŵp?
Isafswm nifer maint grŵp yw 17 o bobl, gan gynnwys dim mwy na dau oedolyn sydd gyda’r grŵp. Gall grwpiau llai wneud cais i’w AS ar gyfer Taith Darganfod Senedd y DU lle na cheir yr un rheolau ynghylch maint grŵp.
Ar gyfer pa oedran rydych yn darparu yn y ganolfan addysg?
Mae teithiau a gweithdai ar gael i bobl ifanc 5 -18 oed.
Ni allwn gynnig lle i grwpiau sy’n hŷn na 18, ond mae croeso i chi ymuno â ni ar gyfer taith tywys.
Beth sy’n digwydd os byddwn yn hwyr?
Gofynnir i chi ffonio ein llinell archebu cyn gynted â phosibl ar 020 7219 4496 a’n hysbysu pryd rydych yn disgwyl cyrraedd.
Bydd yr ymweliad yn dod i ben o hyd ar yr amser cyhoeddedig, ond byddwn yn addasu’r rhaglen i gynnwys cymaint â phosibl o fewn eich slot amser.
Ydyn ni’n gallu bwyta amser cinio yn Senedd y DU?
Mae ein hardal ar gyfer cinio ar gael i’r rhan fwyaf o grwpiau ar ôl eu taith neu weithdy. Nid yw ar gael i grwpiau ar y daith Hanes y Senedd.
Mae’r Ganolfan Addysg hefyd drws nesaf i Erddi Tŵr Fictoria, sy’n ddelfrydol ar gyfer picnic.
Oes lleoedd parcio ar gael?
Mae man gollwng teithwyr gerllaw Senedd y DU, ger Gerddi Tŵr Fictoria. Nid ydym yn gallu darparu lleoedd parcio oherwydd rhesymau diogelwch.
Mae maes parcio tanddaearol yn Abingdon Green, gyferbyn â Thŵr Fictoria, ond ni all coetsis fynd yno oherwydd cyfyngiadau uchder.
Gellir dod o hyd i fanylion am leoedd parcio coetsis yng nghanol Llundain ar wefan Transport for London.
Ydy Senedd y DU yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn?
Ydy, ond maent yn dilyn llwybr taith gwahanol mewn rhai mannau. Gofynnir i chi ein hysbysu os oes defnyddwyr cadeiriau olwyn neu bobl ag anghenion symudedd yn eich grŵp cyn eich ymweliad.
Mae cyfleusterau tai bach ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn ymhob adeilad ac ar hyd y llwybr ymwelwyr.
Ydyn ni’n gallu tynnu ffotograffau?
Mae dau fan ar y llwybr taith lle gallwch dynnu ffotograffau. Bydd eich arweinydd yn dweud wrthych am y rhain.
Caniateir ffotograffau hefyd yn eich grŵp gweithdy, ond siaradwch ag arweinydd eich gweithdy o flaen llaw.
Ydyn ni’n gallu prynu anrhegion a swfenîrs yn ystod ein hymweliad?
Os bydd eich grwp yn cymryd rhan mewn taith a gweithdy, ni fyddwch yn gallu ymweld â siop anrhegion Senedd y DU.
Byddwch yn derbyn manylion yn eich cadarnhad archebu ynghylch sut i archebu anrhegion a swfenîrs o flaen llaw. Rhoddir y rhain i’r athro sy’n arwain ar gyfer pob grŵp ar ddiwedd eich ymweliad.
Noder bod angen rhybudd o leiaf bum niwrnod gwaith i brosesu eich archeb.
Oes darpariaeth ar gyfer grwpiau ag anghenion addysgol arbennig?
Oes. Rydym yn croesawu disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND).
I drafod unrhyw addasiadau sydd eu hangen ar eich grŵp, ffoniwch Wasanaeth Addysg Senedd y DU ar 020 7219 4496.
Oes angen i ni gysylltu â’n AS o flaen llaw?
Rydym bob amser yn gwahodd eich AS lleol i sesiwn Cwestiwn ac Ateb fel rhan o sesiynau Taith a Gweithdy. Ar gyfer grwpiau ar y daith Hanes y Senedd, byddwn yn rhoi’r cyfle i’ch AS gwrdd â chi ar ôl y daith, os yn bosibl.
Noder os yw eich taith wedi’i threfnu ar gyfer dydd Gwener neu yn ystod y gwyliau, mae’n annhebygol y bydd eich AS yn gallu cwrdd â’ch grŵp.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall