Bydd y gweithdy ar-lein rhyngweithiol 30 munud hwn yn edrych ar sut mae cyfranogwyr yn gallu cael gwrandawiad i’w llais yn y Senedd. Wedi’i gynllunio ar gyfer isafswm o 15 o bobl, mae mynychwyr yn cael arolwg llawn o sut mae Senedd y DU yn gweithio iddyn nhw:
- Sut maen nhw’n gallu cael gwrandawiad i’w lleisiau gan ASau?
- Beth mae Tŷ’r Arglwyddi’n ei wneud?
- Sut mae ASau ac Arglwyddi yn codi materion ar eu rhan?