Yn y modiwl e-ddysgu hwn byddwch yn datblygu’ch gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y gwahaniaeth rhwng Senedd y DU a’r llywodraeth drwy erthyglau, fideo a gweithgareddau i gefnogi eich arfer yn yr ystafell ddosbarth.
Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn gallu:
- esbonio rhai o rolau Llywodraeth y DU
- esbonio pwy sy’n ffurfio Senedd y DU a’i swyddogaethau
- amlinellu rhai o’r dulliau y mae Senedd y DU yn eu defnyddio i graffu ar y llywodraeth.
Ewch â’ch dysgu ymhellach gydag adnoddau addysgu a darllen ychwanegol gan ddefnyddio’r dolenni ar waelod y dudalen.
Darllen
Beth yw Senedd y DU? (darllen am 5 mun)
Deddfu, craffu a mwy
Mae Senedd y DU ar wahân i’r llywodraeth. Yn cael ei adnabod fel y ddeddfwrfa hefyd, mae Senedd y DU yn awdurdod gwneud deddfau yn y DU, ac mae hefyd yn gweithio i wirio a herio gwaith y llywodraeth drwy brosesau gwahanol a adnabyddir fel craffu.
Mae tair rhan i Senedd y DU: Tŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi a’r Teyrn, sydd â rôl seremonïol.
Tŷ’r Cyffredin yw rhan y Senedd sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd. Mae ei 650 o aelodau’n cael eu hethol i mewn, fel arfer bob pum mlynedd, pan fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.
Tŷ’r Arglwyddi yw rhan y Senedd sy’n cael ei benodi. Mae’n annibynnol ar ac yn cyfrannu at waith Tŷ’r Cyffredin sy’n cael ei ethol – maent yn rhannu cyfrifoldeb ar gyfer gwneud deddfau a gwirio a herio gwaith y llywodraeth.
Trydedd ran y Senedd yw’r Teyrn. Fel Pennaeth y Wladwriaeth, rôl seremonïol sydd gan y Teyrn yn bennaf. Maent yn niwtral yn wleidyddol, felly nid ydynt yn cefnogi unrhyw blaid wleidyddol neu’n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ddydd i ddydd. Mae’r Teyrn yn cymeradwyo’r biliau mae’r Senedd yn eu pasio, gan eu galluogi i ddod yn ddeddf. Mae’r Teyrn yn gwahodd arweinydd y blaid sy’n ennill y rhan fwyaf o seddau mewn etholiad cyffredinol i ffurfio Senedd y DU, ac yn agor y sesiwn seneddol newydd bob blwyddyn.
Mae Senedd y DU yn system ddwysiambraeth (yn golygu ‘dwy siambr’ yn llythrennol) oherwydd bod Tŷ’r Cyffredin yn ogystal â Thŷ’r Arglwyddi yn cymryd rhan mewn llunio a chytuno deddfwriaeth newydd (deddfau). Mae angen tair rhan gyfan y Senedd i ddeddfu: i wneud deddfau newydd neu newidiadau i ddeddfau presennol y DU.
Mae Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin yn rhannu’r dasg o graffu ar y llywodraeth. Maent yn gwneud hyn wrth holi aelodau’r llywodraeth, trafod materion allweddol a chynnal ymchwiliadau – prosesau byddwch yn edrych arnynt yn ystod y modiwl hwn.
Prif gyfrifoldebau Senedd y DU yw:
- Gwneud a newid deddfau: deddfwriaeth
- Gwirio a herio gwaith y Llywodraeth: craffu
- Trafod materion pwysig y dydd
- Cymeradwyo a galluogi gwario’r llywodraeth trwy’r gyllideb a threthi
Beth yw’r llywodraeth? (darllen am 5 mun)
Pwy sydd yn y llywodraeth?
Mewn gwleidyddiaeth Brydeinig, pan fyddwn yn siarad am ‘Lywodraeth y DU’ rydym yn cyfeirio’n benodol at y Prif Weinidog, y Cabinet a’u gweinidogion iau a swyddogion. Dyma’r tîm o bobl sy’n gyfrifol am arwain a rhedeg y DU. Maent yn cael eu dewis o’r blaid wleidyddol a enillodd y nifer mwyaf o seddau yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Ar ôl etholiad, mae arweinydd y blaid sydd wedi ennill yn cael ei benodi’n Brif Weinidog ac yn dewis aelodau eraill y blaid i weithio yn y llywodraeth gyda nhw am bum mlynedd, tan yr etholiad cyffredinol nesaf. Er y gall AS fod yn aelod o’r blaid sy’n ffurfio’r llywodraeth, os na fyddant yn aelodau o’r tîm hwnnw sy’n cael ei ddewis, ni fyddant yn rhan o’r llywodraeth.
Er enghraifft:
Ar ôl Etholiad Cyffredinol 2017, enillodd y Blaid Geidwadol y nifer fwyaf o seddau yn Nhŷ’r Cyffredin. Fodd bynnag, nid oedd mwyafrif ganddynt (h.y. dros 326 o seddau) a ffurfiwyd llywodraeth leiafrifol gyda 316 o ASau Ceidwadol. O’r rhain, dim ond y Prif Weinidog, 21 o weinidogion y Cabinet a 96 o weinidogion eraill ffurfiodd Llywodraeth y DU.
Yn Etholiad Cyffredinol 2019, enillodd y Blaid Geidwadol fwyafrif clir yn Nhŷ’r Cyffredin. O’r 650 o ASau a gafodd eu hethol, roedd 365 yn ASau Ceidwadol. Eto, dim ond y Prif Weinidog, 21 o weinidogion y Cabinet a 96 o weinidogion eraill ffurfiodd Llywodraeth y DU.
Cliciwch yma i gael rhestr a bywgraffiadau gweinidogion y Cabinet presennol.
Beth mae’r llywodraeth yn ei wneud?
Mae’r llywodraeth yn cael ei hadnabod fel y weithrediaeth ac mae’n gyfrifol am benderfynu sut mae’r wlad yn cael ei rhedeg ac am reoli pethau o ddydd i ddydd. Maent yn gosod trethi, yn dewis ar beth i wario arian cyhoeddus a phenderfynu sut mae darparu gwasanaethau cyhoeddus orau megis:
- y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol
- yr heddlu a’r lluoedd arfog
- budd-daliadau lles megis Lwfans Byw i’r Anabl
- cyflenwad ynni’r DU
Mae gan weinidogion y llywodraeth gyfrifoldeb am adrannau gwahanol y llywodraeth, er enghraifft yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’r Adran Drafnidiaeth. Maent yn cael eu cynorthwyo gan dimau o weision sifil sy’n cyflawni gwaith ymarferol a gweinyddol pob adran y llywodraeth.
Mae rhai meysydd busnes a pholisi wedi’u datganoli i sefydliadau yng nghenhedloedd unigol y DU: Mae gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ddeddfwrfeydd datganoledig (Senedd yr Alban, y Senedd neu Lywodraeth Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon) a gweithrediaethau (Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon).
Tra bod sawl pŵer llywodraethol wedi’u datganoli i’r sefydliadau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, Llywodraeth y DU yn unig sy’n siarad ar ran y DU gyfan ac yn ein cynrychioli dramor.
Mae gweinidogion y Llywodraeth yn eistedd yn y Senedd ac maent yn atebol iddi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i weinidogion ymateb i drafodaethau, ymholiadau a chwestiynau gan ASau ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi.
Mae ASau ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi nad ydynt yn weinidogion y llywodraeth neu lefarwyr yr wrthblaid yn cael eu hadnabod fel aelodau o’r meinciau cefn. Mae gan aelodau o’r meinciau cefn o bob plaid ran bwysig mewn gwirio a herio gwaith y llywodraeth drwy gwestiynau a thrafodaethau, a chynnal ymholiadau pwyllgorau dethol.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am fusnes dydd i ddydd y llywodraeth ar wefan Llywodraeth y DU.
Gwylio
Yn y fideo hwn byddwch yn edrych ar sut mae Senedd y DU yn gwirio ac yn herio gwaith y llywodraeth. Gan ddechrau gyda Chwestiynau’r Prif Weinidog rydym yn gyfarwydd ag ef, byddwn yn dysgu am y gwahanol brosesau mae Senedd y DU yn eu defnyddio bob dydd fel rhan o’i swyddogaeth bwysig i graffu ar waith y llywodraeth.
Mae’r fideo hwn yn dilyn pwnc niweidiau ar-lein, gan ddangos sut mae materion pwysig yn gallu cael eu codi’n gyflym drwy Gwestiynau Brys a’u hymchwilio’n drylwyr fel canolbwynt ymholiad pwyllgor dethol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Senedd y DU a’r llywodraeth?
Craffu yn Senedd y DU
Cwestiynau
Mae ASau ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi’n holi cynrychiolwyr y llywodraeth yn Senedd y DU.
Mae sesiynau amser cwestiynau bob dydd yn y ddwy siambr. Mae gweinidogion o bob adran y llywodraeth yn mynychu Tŷ’r Cyffredin i ateb cwestiynau gan ASau ar drefn rota, fel arfer pob pum wythnos. Mae Aelodau Tŷ’r Arglwyddi’n gofyn cwestiynau i’r llywodraeth ar unrhyw bwnc, ac mae’n rhaid i weinidog neu lefarydd ar ran y llywodraeth ymateb. Unwaith yr wythnos, mae ASau yn holi’r Prif Weinidog yn ystod Amser Cwestiynau’r Prif Weinidog. Mae cwestiynau’n cael eu rhoi (‘eu cyflwyno’) o flaen llaw, ac mae cyfle fel arfer ar gyfer cwestiynau dilynol (‘atodol’).
Mae’n bosibl cyflwyno Cwestiynau Brys yn Nhŷ’r Cyffredin, a Chwestiynau Hysbysiad Preifat yn Nhŷ’r Arglwyddi i’r Llefarydd i ofyn am ymateb gan y llywodraeth ar fyr rybudd am faterion brys, pwysig lle na fyddent fel arall yn codi yn y siambr.
Gweler y cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Gellir cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig gan ASau neu Aelodau Tŷ’r Arglwyddi ar gyfer ymateb gan y llywodraeth. Gallwch ddod o hyd i gofnod o’r cwestiynau hyn a’u hymatebion yma.
Datganiadau
Mae Gweinidogion y Llywodraeth yn gallu gwneud datganiadau llafar neu ysgrifenedig i Senedd y DU. Mae datganiadau llafar fel arfer yn mynd i’r afael â phrif ddigwyddiadau, polisïau neu gamau gweithredu gan y llywodraeth, ac maent yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin yn ogystal â Thŷ’r Arglwyddi. Mae Aelodau wedyn yn cael y cyfle i holi’r gweinidog ynghylch eu datganiad.
Mae datganiadau ysgrifenedig gan weinidogion yn cael eu defnyddio fel arfer i roi busnes dydd i ddydd y llywodraeth ar y cofnod swyddogol ac yn gyhoeddus. Mae datganiadau ysgrifenedig yn cael eu cyhoeddi yma.
Pwyllgorau
Mae llawer o waith craffu Senedd y DU yn digwydd trwy bwyllgorau dethol, sy’n cynnwys aelodau o bleidiau gwleidyddol gwahanol.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae pwyllgor dethol i graffu ar bob adran o’r llywodraeth. Yn Nhŷ’r Arglwyddi maent yn ymwneud â materion ehangach sy’n croesi ar draws adrannau. Maent yn cynnwys 8-15 o aelodau’r fainc gefn i edrych ar faterion polisi, gwario cyhoeddus a’r modd y mae adrannau’n cael eu rhedeg. Mae’r rhan fwyaf o bwyllgorau dethol yn cwrdd yn rheolaidd i dderbyn tystiolaeth lafar gan weinidogion, swyddogion, sefydliadau, ac unigolion. Cadeiryddion pwyllgorau dethol eraill sy’n ffurfio’r Pwyllgor Cyswllt ac mae’n cwrdd tua tair gwaith y flwyddyn i holi’r Prif Weinidog.
Mae rhai pwyllgorau’n cael eu ffurfio ar y cyd ag aelodau Tŷ’r Arglwyddi.
Dewch o hyd i restr o bwyllgorau yma.
Trafodaethau
Mae trafodaethau’n rhoi cyfle i drafod materion o bwys amserol, cenedlaethol a lleol, ac yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i drafod deddfau newydd sy’n cael eu cynnig. Maent hefyd yn fodd i godi ymwybyddiaeth gyhoeddus neu dynnu sylw’r llywodraeth at fater o bryder. Mae ASau yn gallu defnyddio’r cyfleoedd hyn i godi materion mae eu hetholwyr yn eu hwynebu. Yn Nhŷ’r Arglwyddi, mae trafodaethau’n rhoi cyfle i aelodau gydag amrywiaeth o arbenigedd ystyried pwnc.
Mae’r rhan fwyaf o drafodaethau’n cael eu cynnal ar gynnig gan y Llywodraeth, ond mae cyfleoedd hefyd yn y ddwy siambr i’r prif wrthbleidiau ac aelodau o’r meinciau cefn gynnal trafodaethau ar bynciau o’u dewis, gyda gweinidog neu lefarydd sy’n bresennol yn ymateb i’r pwyntiau sy’n cael eu codi.
Mae pleidleisiau’n cael eu cymryd yn aml yn dilyn trafodaeth i weld a yw mwyafrif o Aelodau naill ai’n cefnogi neu’n gwrthod deddfau neu gynigion a gafodd eu trafod.
Archwilio
Mae gan lawer o bobl adnabyddus rolau pwysig yn y llywodraeth yn ogystal â Senedd y DU.
Defnyddiwch y PDFs rhyngweithiol hyn i edrych ar rolau a chyfrifoldebau gwahanol bobl a grwpiau yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’n bosibl defnyddio’r adnoddau hyn yn yr ystafell ddosbarth hefyd.

Y Tu Mewn i Dŷ’r Cyffredin
Tŷ’r Cyffredin yw'r siambr sy’n cael ei hethol yn Senedd y DU.
Mae'r Prif Weinidog a llawer o bobl allweddol eraill yn y llywodraeth yn cael eu tynnu o Dŷ’r Cyffredin.

Y Tu Mewn i Dŷ’r Arglwyddi
Tŷ’r Arglwyddi yw'r siambr benodedig yn Senedd y DU.
Mae arbenigedd aelodau yn ei galluogi i fod â rôl allweddol mewn craffu, a bod â pheth cyfrifoldeb yn y llywodraeth.
Addysgu
Dewch o hyd i syniadau ac adnoddau addysgu ar gyfer yr ystafell ddosbarth yma.
Ewch gam ymhellach
Dewch o hyd i ddeunydd darllen ychwanegol ar rôl senedd y DU a’r llywodraeth yma.

Gadewch i ni wybod eich barn
Byddem wrth ein bodd i gael eich barn am y modiwl hwn.
Cwblhewch yr adborth i dderbyn eich tystysgrif cymryd rhan.