Cysylltu pobl ifanc â’u cynrychiolaeth

Mae’r gwasanaeth bywiog, rhyngweithiol hwn yn cyflwyno myfyrwyr i beth yw Senedd y DU a sut mae’n gweithio. Yn bwysicach, byddan nhw’n dysgu beth mae’n ei golygu i’w bywydau fel dinasyddion.

Yn para tua 30 munud, mae’n berffaith ar gyfer naill ai grwpiau blwyddyn neu gyflwyniad ysgol llawn.

Mae’n swyddogion allgymorth yn teilwra pob sesiwn i’ch myfyrwyr a’u cwricwlwm. Rydym yn gallu addasu’ch sesiwn i ateb unrhyw ofynion hygyrchedd. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n archebu.

 

Beth fydd eich myfrwyr yn ei ddysgu?

Oed 7-11

  • Sut mae’n democratiaeth yn gweithio?
  • Sut mae pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yng ngwaith Senedd y DU?
  • Beth yw rolau ASau a Thŷ’r Arglwyddi?

 

Oed 11-14

  • Sut mae Senedd y DU yn creu deddfau newydd?
  • Sut mae Senedd y DU yn dal y Llywodraeth i gyfrif?
  • Sut mae etholiadau a phleidleisio’n gweithio?

Oed 14-16

  • Beth mae’n ei olygu i fod yn ddinesydd gweithredol?

Oed 16-18

  • Sut mae Tŷ’r Cyffedin a Thŷ’r Arglwyddi yn rhyngweithio?
  • Sut mae ymgyrchwyr ifanc yn creu newid yn awr?
  • Sut mae pwyllgorau dethol yn gweithio?