Profiad dysgu ymarferol i bobl ifanc
Pam bod angen etholiadau? Pwy sy’n cael eu hethol a sut maen nhw’n ei wneud? Mae’r gweithdy hwn yn rhoi gwybod i’ch myfyrwyr am y ffeithiau ac yn eu harfogi i fod yn ddinasyddion cysylltiedig, gweithredol.
Mae’r gweithdy rhyngweithiol hwn yn gallu cael ei addasu i ateb anghenion a rhychwant oedran penodol eich dosbarth. Rydym hefyd yn gallu addasu eich sesiwn i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion mynediad. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu.
Beth fydd eich myfyrwyr yn ei ddysgu?
Oed 7-11
- Faint o etholaethau sy’n anfon AS i Senedd y DU?
- Beth sydd mewn maniffesto?
- Beth yw pleidiau gwleidyddol? Sut maen nhw’n gweithio?
- Beth sy’n digwydd yn ystod etholiad?
Oed 11-16
- Sut mae pleidleisio ac etholiadau’n gweithio yn y DU?
- Beth yw manteision ac anfanteision y system bleidleisio cyntaf heibio’r postyn?