Gadewch i fyfyrwyr brofi’r broses ddeddfu
Sut mae Senedd y DU yn troi syniad yn ddeddf? Mae’r gweithdy rhyngweithiol iawn hwn yn mynd â’ch dosbarth trwy’r daith, gan annog safbwyntiau amrywiol.
Beth fydd myfyrwyr yn ei ddysgu?
Mae ein tîm allgymorth yn teilwra’r gweithdy deddfau a dadlau i faint eich dosbarth ac ystod eu hoedran:
Oed 7-11
Trwy adrodd storïau a dadlau, bydd y dosbarth yn archwilio deddfu a sut mae’n gweithio.
Oed 11-16
Bydd dosbarthiadau hŷn yn cymryd rhan mewn dadlau manylach. Gan gymryd rôl Asau, byddant yn pwyso a mesur manteision ac anfanteision pwnc amserol.
Rydym yn gallu addasu eich sesiwn i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion hygyrchedd. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi’n archebu.