Mae’r adnodd hwn yn cynnwys straeon am bobl ddylanwadol sydd wedi effeithio ar ddeddfau a hawliau cyfartal perthnasol i anabledd. Wedi’i lansio i nodi Mis Hanes Anabledd 2020, gellir defnyddio’r adnodd hwn trwy gydol y flwyddyn academaidd i ymgorffori’r straeon ar draws y cwricwlwm.

Dysgu am..

Ben Purse
Roedd Ben yn arloeswr cynnar dros hawliau anabledd, gan arwain gorymdaith o ddeillion a phobl â nam ar eu golwg i’r Senedd ym 1920, a arweiniodd at ddeddf newydd bwysig.

Rosa May Billinghurst
Swffragét ddylanwadol a defnyddwraig cadair olwyn, roedd gan Rosa ran bwysig mewn protestiadau a gweithrediadau yn yr ymgyrch dros bleidleisiau i ferched.

Yr Arglwyddd Alf Morris
Fel AS ac aelod o Dŷ’r Arglwyddi, daeth Alf yn ffrind hawliau anabledd cryf ar ôl profi anghydraddoldeb yn ymarferol pan ddychwelodd ei dad o’r Rhyfel Mawr yn methu â gweithio oherwydd ei anafiadau.

Anne Begg
Wedi’i hysgogi gan yr heriau roedd yn eu hwynebu i fod yn athrawes, ymgyrchodd Anne i fod yn AS yn y Senedd i ymladd dros gyfleoedd cyfartal i bawb, gan ddod y ddefnyddwraig cadair olwyn amser llawn gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin.

Y Farwnes Jane Campbell
Fel merch ifanc, canfu Jane ei bod yn cael ei gwahardd yn annheg o addysg brif ffrwd ac roedd am sicrhau nad oedd neb yn cael ei adael allan eto, wrth yn gyntaf ddod yn actifydd hawliau anabledd, ac yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi’n hwyrach.

Deborah Williams
Pan sefydlodd Deborah, perfformwraig ac artist, ei chwmni ei hun i adrodd ei straeon, llwyddodd i’r fath raddau fel y cafodd ei gwahodd i’r Senedd i rannu ei phrofiad a sgiliau â phwyllgor dethol.

Gall eich disgyblion gymryd rhan hefyd yn y gweithgareddau hyn:

  • Beth yw hawliau cyfartal?
  • Cynnwys pawb, bob tro

Lawrlwythiadau

Yn cynnwys 1 adnodd