Yr hyn fydd eich myfyrwyr yn ei ddysgu

Bydd y fideos canlynol yn cynorthwyo sut bydd myfyrwyr yn meddwl ynghylch deddfwriaeth anabledd.

Yn y fideo cyntaf mae Nancy’n siarad am ei phrofiad fel rhywun a gollodd ei choes, a sut yn y blynyddoedd yn dilyn ei thriniaeth roedd wedi brwydro i gael mynediad i’r mannau roedd hi’n arfer mynd iddynt, megis theatrau ac arenâu chwaraeon.

Yn yr ail fideo, mae Adi’n esbonio sut y gwahaniaethwyd yn ei erbyn yn y brifysgol wrth wneud cais am swydd a sut roedd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 wedi’i helpu i herio’r ymddygiad hwn.

Mae’r pecyn adnoddau’n cynnwys:

  • Gwybodaeth gefndirol am y fideos
  • Cwestiynau i’w hystyried a’u trafod
  • Rhestr termau’r ddeddfwriaeth

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Shaw am eu cefnogaeth yn cynhyrchu’r adnodd hwn.

Stori Nancy

Stori Adi

Dolenni’r Cwricwlwm

Cymru

  • Dinasyddiaeth CA3/4 – Byw gyda’n gilydd yn y DU/ Pwêr a Dylanwad/ Gweithredu camau dinasyddiaeth

Lawrlwythiadau

Yn cynnwys 1 adnodd