Cyntaf
Olaf
Mae Senedd y DU yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer cynnal gweithdai, sgyrsiau a theithiau allanol ar-lein i’r cyhoedd. Ni chesglir, prosesir na storir unrhyw ddata personol gan Microsoft os bydd defnyddwyr yn deialu i mewn i’r sesiwn yn ddienw trwy’r opsiwn porwr gwe yn hytrach na’r ap. Os bydd defnyddwyr yn dewis deialu i mewn trwy eu cyfrif Microsoft eu hunain, bydd Microsoft yn cadw enw a chyfeiriad e-bost pob defnyddiwr.
Os bydd y prif gyswllt neu’r trefnydd wedi cofrestru am weithdy ar-lein, sgwrs neu daith gyda phobl ifanc o dan 16 oed, sy’n deialu i mewn yn annibynnol, eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau eu bod yn deialu i mewn yn ddienw neu fod ganddynt ganiatâd rhieni i ddeialu i mewn gyda’u cyfrifon Microsoft. Nid yw Senedd y DU yn cymryd cyfrifoldeb am ddata gweladwy i gyfranogwyr eraill, o ganlyniad i rywun yn deialu i mewn gyda’u cyfrif Microsoft neu’n ychwanegu eu henw llawn wrth ddeialu i mewn yn ddienw.
Mewn gweithdy Microsoft Teams, sgwrs neu daith a drefnir gan Senedd y DU, cedwir cofnod o’r sgwrs am 24 awr. Ar ôl 24 awr, dilëir cofnod cyfan y sgwrs yn awtomatig.
Bydd Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu Senedd y DU yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais yn unig. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar ein dibenion cyfreithlon. Pan fyddwch yn ymgysylltu â ni i drefnu digwyddiadau, gweithdai, teithiau neu weithgareddau tebyg yn Senedd y DU, byddwn yn prosesu’r data personol a ddarperir gennych er mwyn i ni gyflawni’r trefniant cytundebol hwnnw. Os byddwch yn dewis derbyn y cylchlythyr, byddwn yn prosesu eich data yn unol â’r telerau a nodir yn ein polisi preifatrwydd. Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, a’r hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y wybodaeth honno. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu Senedd y DU yn defnyddio data personol, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.