Mae Swyddogion Allgymorth Senedd y DU wedi’u lleoli ym mhob cenedl a rhanbarth yn y DU. Mae ein sesiynau hyfforddiant am ddim yn cynnig arbenigedd uniongyrchol i grwpiau cymunedol, gan eu harwain trwy sut mae democratiaeth y DU’n gweithio a sut y gallant weithredu ar faterion sydd o bwys iddynt.

Y rhai rydym yn gweithio gyda hwy

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gymunedau a sefydliadau. Yn seiliedig ar ymchwil o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, rydym wedi adnabod ein pump prif cynulleidfa darged:

• Pobl ifanc
• Grwpiau menywod
• Pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
• Pobl anabl
• Pobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir

Rydym yn blaenoriaethu gweithio gyda’r grwpiau hyn.

Yr iaith Gymraeg

Mae’n holl sesiynau ar gael yn Gymraeg. Rowch wybod wrth archebu os hoffech chi i’ch sesiwn gael ei darparu yn Gymraeg.

Gofynion hygyrchedd ac arbennig

Rydym yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod ein gweithdai’n hygyrch i unrhyw gyfranogwyr ag anghenion mynediad ychwanegol gan gynnwys darparu cyllid i gwmpasu rhai costau, fel arwyddwyr BSL. Rhowch wybod wrth archebu os oes gennych chi ofynion hygyrchedd a/neu arbennig a bydd swyddog allgymorth yn cysylltu.

 

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr i sefydliadau

Derbyniwch gylchlythyr rheolaidd sy’n llawn o'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau am ddim ar-lein ac o amgylch y DU i helpu'ch sefydliad i gymryd rhan.