Yn unol â chyngor ac arweiniad diweddaraf y Llywodraeth gan Iechyd y Cyhoedd Lloegr, mae ymwelwyr nawr wedi eu hatal rhag ymweld â Senedd y DU. Mae’r Ganolfan Addysg nawr ar gau ac ni chaniateir teithiau ysgol. Rydym hefyd wedi gohirio ein gweithgaredd allgymorth rhanbarthol a chenedlaethol i ysgolion a grwpiau cymunedol.
Mae’r penderfyniad, yn unol â chyngor diweddaraf y Llywodraeth, wedi’i wneud gan Lefarydd y ddau dŷ, mewn ymgynghoriad ag Iechyd y Cyhoedd Lloegr, i gadw Senedd y DU i weithredu.
Gwasanaethau a gweithdai am ddim, cysylltiedig â chwricwla i ddod â Senedd y DU yn fyw yn eich ysgol
Wedi’u darparu yn eich ystafell ddosbarth gan ein tîm allgymorth arbenigol, bydd myfyrwyr yn darganfod rhagor am beth mae eu Senedd DU yn ei golygu iddyn nhw fel dinasyddion.
Ein sesiynau rhyngweithiol
Mae’n sesiynau rhyngweithiol wedi cael eu teilwra ar gyfer eich dosbarth ac wedi’u cynllunio i annog dysgu gydol oes am Senedd y DU a dinasyddiaeth weithredol.
-
Roedd y gwasanaeth a’r gweithdy yn bleserus iawn a dysgon nhw lawer.
Academi Kings Ash, De Orllewin
Ymweliadau allgymorth ysgolion Senedd y DU am ddim

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr addysg misol Senedd y DU i gael y newyddion diweddaraf am ein holl gyfleoedd dysgu.